Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd fesul chwarter a blwyddyn

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn Academaidd
13 o 13 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Math o raglen
13 o 13 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Sector
162 o 162 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhyw
5 o 5 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Grwp oedrean
13 o 13 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhanbarth Domisil
29 o 29 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Chwarter
5 o 5 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:1 Chwefror 2026

Diweddariadau

9fed Hydref 2025
9fed Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR)
Cyfnod amser dan sylw
Awst 2012 i Gorffennaf 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r tabl hwn yn nodi nifer y bobl sy'n dechrau rhaglenni dysgu mewn dysgu seiliedig ar waith (WBL) yng Nghymru. Mae'r data'n cynnwys WBL a ddarperir gan sefydliadau addysg bellach a WBL a ddarperir gan ddarparwyr hyfforddiant eraill.

Cyfrifo neu gasglu data

Cyfrifir data Ch3 2024/25 gan ddefnyddio rhew mis 12 Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Cynhyrchwyd y rhew hwn ar 24 Gorffennaf 2025.

Ar 1 Awst 2021, rhoddwyd trefniadau newydd ar waith o ran contractau dysgu seiliedig ar waith. Yn sgil hyn, trosglwyddwyd tua 4,800 o brentisiaid i ddarparwyr newydd, a chrëwyd cofnodion newydd ar gyfer rhaglenni yng Nghofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. Fel rheol, caiff cofnodion newydd ar gyfer rhaglenni, sy’n cael eu creu yn sgil trosglwyddo dysgwyr, eu cynnwys yn yr ystadegau ar niferoedd sy’n dechrau prentisiaethau, ac eithrio’r mesur targed. Yn yr achos hwn, fodd bynnag, nid ydym wedi cynnwys y cofnodion hyn gan fod cymaint o ddysgwyr wedi trosglwyddo, ac y byddai’r ystadegau wedi creu darlun camarweiniol o’r niferoedd a ddechreuodd brentisiaethau yn chwarter 1 2021/22 pe baem wedi’u cynnwys.

O 2016/17 ymlaen, bydd yr holl ddata yn y tabl yn cael eu cyfrifo drwy ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 5 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae'r cyfnod rhewi yn dod i rym tua diwedd mis Rhagfyr ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2016/17 i rym tua diwedd mis Rhagfyr 2017.

Cyn 2016/17, roedd y data yn y tabl yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio'r cyfnod rhewi o 7 mis ar Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Daeth y cyfnod rhewi hwn i rym tua diwedd mis Chwefror ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd dan sylw. Er enghraifft, daeth y cyfnod rhewi sy'n cwmpasu data 2015/16 i rym tua diwedd mis Chwefror 2017.

Cyflwynir y data yn y tabl ar sail blwyddyn academaidd, sy'n rhedeg o 1 Awst tan 31 Gorffennaf.

Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5. Mae pob gwerth mwy na 0 ond llai na 5 wedi'u diystyru, ac fe'u nodir gyda seren (*).

Ansawdd ystadegol

Ansawdd ystadegol Mae ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru yn adolygu'r data ac yn gwirio unrhyw anghysondebau gyda thîm casglu data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru ac, os yn berthnasol, gyda darparwyr dysgu cyn cyhoeddi unrhyw dablau.

Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru sy'n sail i'r tabl hwn wedi'i fwriadu i fod yn ddata terfynol at ddibenion nad oes a wnelont â chyllid.

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae'r holl ffigurau yn y tabl wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5. Mae pob gwerth llai na 5 wedi'u diystyru, ac fe'u nodir gyda seren (*).

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Medr
E-bost cysylltu
ystadegau@medr.cymru