Adrannau brys: nifer y derbyniadau yn ôl oed a rhyw, Ebrill 2016 ymlaen

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dyddiad
124 o 124 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ysbyty
61 o 61 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhyw
4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Oed
18 o 18 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, na'i disodli yn y dyfodol

Diweddariadau

10fed Tachwedd 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
Ffynhonnell y data
Set Ddata Adran Achosion Brys (EDDS)
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 2016 i Rhagfyr 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r data a gyflwynir yn y tabl hwn at ddibenion cyd-destunol yn unig gan nad yw'n cynnwys cleifion a fynychodd rai unedau mân anafiadau ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, lle na ellir cael data ar lefel cleifion mewn modd mor gyson â phob ysbyty arall. Felly bydd cyfanswm y nifer a fynychodd ysbytai yn is na'r hyn a gyflwynir yn y datganiad ystadegol ar weithgarwch a pherfformiad y GIG a’r tablau cysylltiedig yn StatsCymru, gan fod y niferoedd yn y cyhoeddiadau hyn yn seiliedig ar ddata cyfanredol a gesglir oddi wrth bob ysbyty. Mae cwmpas ehangach o ystadegau perfformiad adrannau brys bellach yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol (NCCU), fel rheolwyr. Mae hyn yn cynnwys mesur yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a chael ei frysbennu, yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a chael cysylltiad â gwneuthurwr penderfyniadau clinigol, a dadansoddiad o ble fydd y claf yn mynd ar ôl gadael yr adran achosion brys. Caiff y rhain eu diweddaru bob mis ar yr un diwrnod â’r cyhoeddiad Ystadegau Gwladol hwn. Ni fydd modd cymharu’r data sydd ar gael cyn mis Ionawr 2013 â’r data ar gyfer mis Ionawr 2013 ymlaen oherwydd newid mewn methodoleg. Darllenwch y nodiadau yn natganiad mis Mawrth 2013 am ragor o fanylion (Ionawr 2013). Er bod rhywfaint o niferoedd bach yn y data sydd wedi'i gasglu a’i gyflwyno, ni chaiff y wybodaeth ei hystyried yn sensitif ac ni chyflwynir unrhyw wybodaeth mae modd adnabod pobl gyda hi.

Cyfrifo neu gasglu data

I weld y wybodaeth hon, dilynwch y ddolen i’r cyhoeddiad ystadegol perthnasol.

O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Am ragor o wybodaeth gweler y datganiad ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg (gweler y dolenni gwe). Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae dolen i ddatganiad gan y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gael yn yr adran dolenni’r we.

Cymerodd ‘Cardigan Integrated Care Centre’ drosto ‘Cardigan and District Memorial Hospital’ o ganol mis Rhagfyr 2019. Ar gyfer Rhagfyr 2019, adroddwyd data yn erbyn y ddau safle am hyd yr amser yr oeddent ar agor yn ystod y mis.

Ansawdd ystadegol

I weld y wybodaeth hon, dilynwch y ddolen i’r cyhoeddiad ystadegol perthnasol.

Yn ystod y pandemig COVID-19, wnaeth sawl Uned Mân Anafiadau cau dros dro, ond mae rhai wedi ail-agor erbyn rwan. Rhain yw Ysbyty'r Barri (caewyd Mawrth 2020; ail-agorwyd Awst 2020); Bryn Beryl (caewyd Mai 2020; ail-agorwyd Awst 2020); Ysbyty Dolgellau ac Abermo (caewyd Ebrill 2020; dal ar gau); Ysbyty Tywyn (caewyd June 2020; dal ar gau); ac Ysbyty Llanymddyfri (caewyd Ebrill 2020; dal ar gau).

Sylwch fod y data a gynhwysir yn y set ddata hwn yn cwmpasu cyfnod yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19), sydd wedi effeithio ar y ffordd y mae rhai gwasanaethau'r GIG yn cael eu cynnig a dewisiadau pobl o ran gwasanaethau iechyd. Gweler y datganiad diweddaraf am ragor o wybodaeth.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru