Mae'r set ddata hon i'w chael yn:

Cofrestriadau Addysg Uwch a nifer y credydau a astudiwyd yn y Gymraeg

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn academaidd
8 o 8 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Nifer y credydau cyfrwng Cymraeg
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Darparwr
21 o 21 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dull astudio
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Lefel astudio
7 o 7 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Gwlad y mae'n hanu ohoni
2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Gallu i siarad Cymraeg
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhyw
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Marciwr newydd-ddyfodiad
2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Gorffennaf 2026

Diweddariadau

2ail Mawrth 2026

Profi cyfleuster diweddaru ac ychwanegu cyfieithiadau Cymraeg.

20ain Tachwedd 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch
Ffynhonnell y data
Cofnod myfyrwyr

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r data'n dangos nifer y cofrestriadau yn narparwyr addysg uwch Cymru yn ôl nifer y credydau a astudir trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gellir dadansoddi'r data yn ôl:

  • Blwyddyn academaidd - 1 Awst i 31 Gorffennaf, e.e. 2023/24 yw 1 Awst 2023 i 31 Gorffennaf 2024.

  • Gwlad y mae'n hanu ohoni - pa un a oedd cyfeiriad parhaol myfyriwr cyn dechrau ei gwrs yng Nghymru ynteu'r tu allan i Gymru.

  • Marciwr newydd-ddyfodiad - yr holl gofrestriadau neu'r rhai ym mlwyddyn gyntaf eu hastudiaethau.

  • Lefel astudio

  • Dull astudio - amser llawn neu ran-amser

  • Nifer y credydau cyfrwng Cymraeg - nifer y credydau a astudir trwy gyfrwng y Gymraeg ar gofrestriad.

  • Darparwr

  • Rhyw - rhyw'r myfyriwr yn hytrach na'r rhyw y mae'n uniaethu ag ef. Mae myfyrwyr lle dychwelwyd hyn fel 'Arall', 'Ddim ar gael' neu 'Gwybodaeth wedi'i gwrthod' wedi'u cynnwys yn y ffigyrau ar gyfer pob cofrestriad.

  • Gallu i siarad Cymraeg - gallu a nodwyd gan y myfyriwr ei hun.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn casglu data gan ddarparwyr addysg uwch am fyfyrwyr sydd wedi'u cofrestru yn eu sefydliad. Ar gyfer darparwyr addysg uwch yng Nghymru, mae hyn yn cynnwys casglu data am y ganran o bob modiwl a ddarperir trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer pob cofrestriad.

Poblogaeth a gynhwysir

Y cofrestriadau a gynhwysir yw'r rhai ym mhoblogaeth gofrestru safonol HESA yn narparwyr AU Cymru (a'r myfyrwyr yr oedd eu cyfeiriad parhaol cyn cofrestru yng Nghymru). Gall myfyriwr fod â mwy nag un cofrestriad mewn blwyddyn academaidd, ac os felly yna cyfrifir pob cofrestriad ar wahân.

I gael ei gynnwys ym mhoblogaeth safonol HESA, mae angen i gofrestriad fod yn weithredol mewn astudiaeth o leiaf bythefnos ar ôl dyddiad cychwyn eu hymgysylltiad neu'r un dyddiad mewn blynyddoedd dilynol. Nid yw myfyrwyr sy'n ysgrifennu eu hymchwil (ac sydd heb unrhyw astudiaeth weithredol) ar ôl y dyddiad blynyddol hwn yn cael eu cynnwys yn y boblogaeth, nac ychwaith fyfyrwyr y disgwylir iddynt astudio am bythefnos neu lai ac nad ydynt yn cwblhau eu hastudiaethau nac yn ennill cymhwyster. Nid yw myfyrwyr segur, myfyrwyr ymweliadol sy'n dod i mewn na myfyrwyr cyfnewid o dramor na myfyrwyr sy'n astudio am eu holl raglen astudio y tu allan i'r DU yn cael eu cynnwys ychwaith.

Mae'r holl fodiwlau sydd â pheth gweithgarwch yn y flwyddyn academaidd berthnasol yn cael eu cynnwys.

Cyfrifo nifer y credydau a astudir yn Gymraeg

Cyfrifir nifer y credydau a addysgir yn Gymraeg trwy luosi cyfanswm nifer y credydau mewn modiwl â’r ganran a ddarperir yn Gymraeg. Ar gyfer pob cofrestriad mae cyfanswm nifer y credydau Cymraeg yn golygu swm y credydau ar gyfer pob modiwl yn y cofrestriad lle bu peth gweithgarwch yn y flwyddyn academaidd berthnasol.

Mae gwybodaeth am fodiwlau ar gyfer cofrestriadau ymchwil ôl-radd yn ddewisol. Ar gyfer cofrestriadau lle nad yw gwybodaeth am fodiwlau’n cael ei dychwelyd yna defnyddir yr wybodaeth gyfatebol ar lefel y cofrestriad yn lle hynny.

Gallu i siarad Cymraeg Mae gallu myfyriwr i siarad Cymraeg yn cael ei nodi gan y myfyriwr ei hun.

Hyd at 2021/22, y categorïau y gellid eu defnyddio oedd: siaradwr Cymraeg rhugl, siaradwr Cymraeg nad yw’n rhugl a ddim yn siaradwr Cymraeg. Ceir categori anhysbys hefyd ar gyfer achosion lle gwrthodir yr wybodaeth hon neu lle nad oedd yn gallu cael ei chasglu.

O 2022/23, fe wnaeth categorïau ychwanegol ddisodli’r categori siaradwr Cymraeg nad yw’n rhugl, sef ‘yn gallu siarad cryn dipyn’, ‘yn gallu siarad ychydig yn unig’ neu ‘yn gallu dweud ychydig o eiriau’ ac maent wedi cael eu grwpio i greu categori ar gyfer y rhai nad ydynt yn rhugl. Felly caiff myfyrwyr eu cyfrif yn y categori ar gyfer y rhai nad ydynt yn rhugl a’r categorïau mwy manwl pan ddarperir y rhain.

Ansawdd ystadegol

Codau Mae gwerthoedd data â chod [t] naill ai’n gyfansymiau neu’n is-gyfansymiau.

Nifer y credydau a astudir yn Gymraeg

Nid yw’n hawdd amcangyfrif y ganran o fodiwl a astudir trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer pob myfyriwr, a gall arwain at anghysondeb rhwng darparwyr ac ar draws blynyddoedd. Felly y mae hi’n enwedig ar gyfer modiwlau a ddarperir yn ddwyieithog, ac mae’n effeithio i raddau helaeth ar niferoedd y cofrestriadau â niferoedd is o gredydau, megis y categorïau ‘o leiaf 1 credyd’ ac ‘o leiaf 5 credyd’. Er enghraifft, mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi adolygu sut y mae’n cyfrifo’r canrannau hyn, gan gynnwys modiwlau lle gall myfyrwyr gael profiad dwyieithog ‘goddefol’ gyda deunyddiau’n cael eu darparu yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac roedd hwn yn ffactor mawr yn y gostyngiad mewn cofrestriadau ag o leiaf 1 credyd yn Gymraeg rhwng 2022/23 a 2023/24.

Mae Medr a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi bod yn gweithio gyda darparwyr i wella’r cysondeb o ran sut y cyfrifir y ganran hon, a byddant yn parhau i wneud hynny.

Gallu i siarad Cymraeg

Fe wnaeth newid o ran sut y casglwyd gallu yn y Gymraeg yn 2022/23 arwain at rai problemau gydag ansawdd data.

Un broblem yw y gall y newid effeithio ar gysondeb y modd y cofnodwyd y data. Er enghraifft, cyn 2022/23 gall myfyriwr a oedd ym medru ychydig o Gymraeg fod wedi teimlo nad oedd ei allu’n ddigon da i fod yn siaradwr Cymraeg nad yw’n rhugl, ond o 2022/23 ymlaen gall y categori Siaradwr Cymraeg: yn gallu dweud ychydig o eiriau fod yn fwy priodol. Nid yw hyn i’w weld fel pe bai wedi cael effaith sylweddol ond mae’n rhywbeth a fydd yn cael ei fonitro yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Roedd rhai problemau darparwr-benodol hefyd:

Bu gan y Brifysgol Agored gyfran uwch o fyfyrwyr â gallu anhysbys yn y Gymraeg ers 2022/23, heb wahaniaethu rhwng y rhai â gallu anhysbys a’r rhai sydd ddim yn siaradwyr Cymraeg fel oedd yn wir yn 2021/22 ac yn gynharach.

Cafodd Prifysgol De Cymru broblemau wrth roi’r strwythur data newydd ar waith, a arweiniodd at y problemau canlynol:

  • Yn 2022/23, cafodd nifer uwch na’r disgwyl o fyfyrwyr eu dychwelyd fel siaradwyr nad oeddent yn rhugl, neu siaradwyr Cymraeg â hyfedredd anhysbys. Nid yw hyn i’w weld fel pe bai’n adlewyrchu realiti gan bod y niferoedd wedi gostwng i lefelau mwy arferol yn 2023/24.
  • Yn 2023/24, fe gynyddodd nifer y myfyrwyr â gallu anhysbys i siarad Cymraeg oherwydd problemau gyda meddalwedd.
Talgrynnu wedi'i wneud

Mae niferoedd y cofrestriadau wedi cael eu talgrynnu i’r 5 agosaf.

Adroddiadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Medr
E-bost cysylltu
YstadegauAU@medr.cymru