Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl awdurdod lleol, math o drafodiad, mesur a blwyddyn dod i rym
Disgwylir y diweddariad nesaf:30 Ebrill 2026
Diweddariadau
- 3ydd Mawrth 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Awdurdod Cyllid Cymru
- Ffynhonnell y data
- Ffurflenni treth trafodiadau tir
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2018 i Rhagfyr 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir (TTT) ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael eu prynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth TTT yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.
Rhaid i drethdalwyr hysbysu’r Awdurdod am bob trafodiad tir sydd â gwerth uwch na £40,000. Ceir amgylchiadau hefyd lle nad yw rhai trafodiadau les penodol yn hysbysadwy os ydynt yn para am lai na 7 mlynedd. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno a thalu'r ffurflen.
Mae'r set ddata hon yn cynnwys amcangyfrifon o drafodiadau hysbysiad TTT a dderbyniwyd gan yr Awdurdod erbyn cau'r trydydd ddydd Llun o fis y cyhoeddiad.
Mae'r set ddata’n cynnwys dadansoddiad fesul:
- y math o drafodiad: preswyl (gan gynnwys is-gategorïau ar gyfer trafodiadau prif gyfradd a chyfradd uwch), amhreswyl
- awdurdod lleol: pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru
- mesur: nifer y trafodiadau, treth sy'n ddyledus, gwerth yr eiddo a drethir, y dreth gyfartalog sy'n ddyledus fesul trafodiad a gwerth cyfartalog yr eiddo sy'n cael ei drethu
- blwyddyn y daw i rym (blynyddoedd sy'n dod i ben ar Fehefin, Medi, Rhagfyr a Mawrth)
Noder mai ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig y cyflwynir gwerthoedd eiddo a gwerth eiddo cyfartalog er mwyn osgoi datgelu’n ddamweiniol fanylion sy'n ymwneud â thrafodiadau amhreswyl unigol.
Mae esboniad llawn o sut y dylid dehongli'r set ddata hon, yn enwedig yng nghyd-destun trafodiadau cyfraddau uwch, i'w gweld yma: Bwriad prynwyr wrth wneud trafodiadau lle telir cyfradd uwch y Dreth Trafodiadau Tir: Gorffennaf 2024 i Mehefin 2025
Ar gyfer rhai trafodiadau ni allwn ddarparu unrhyw fanylion heblaw cyfanswm y dreth sy'n ddyledus yn y flwyddyn, gan fod perygl o ddatgelu manylion y trafodiadau unigol. Felly, mae trafodiadau hyn wedi'u hepgor o bob dadansoddiadau a chânt eu crynhoi yma yn y set data "Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfanswm y dreth sy'n ddyledus, gan gynnwys trafodiadau sydd â manylion cyfyngedig (er mwyn sicrhau cyfrinachedd)".
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae'r ystadegau hyn wedi'u crynhoi o'r dychweliadau Treth Trafodiadau Tir unigol a gyflwynwyd i'r WRA gan drethdalwyr, sydd wedyn wedi'u dadansoddi i mewn i dimensiynau gwahanol.
- Ansawdd ystadegol
Gweler y dolenni.
Mae ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn cael eu diwygio'n rheolaidd ac mae'r gwerthoedd ar gyfer y cyfnod diweddaraf yn rhai dros dro. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y ‘dyddiad dod i rym’ i gyflwyno a thalu'r ffurflen. Y dyddiad dod i rym yw’r dyddiad pan fydd y dreth yn dod yn daladwy, fel arfer pan fydd trafodiad ar eiddo yn cael ei gwblhau. Felly, mae'n debygol y caiff trafodiadau TTT sy'n ymwneud â'r mis diweddaraf eu ffeilio yn ystod y mis canlynol. Gweler y dolenni am ddadansoddiad o’r diwygiadau hyn.
Gall y gwerthoedd ar gyfer cyfnodau cynharach gael eu diwygio am nifer o flynyddoedd. Gellir diwygio trafodiadau am amryw o resymau ac mae'r ystadegau'n cael eu diwygio bob mis er mwyn adlewyrchu newidiadau i drafodiadau. Bydd hyn, yn enwedig, o ganlyniad i ad-daliadau cyfraddau uwch. Pan fydd ad-daliad TTT preswyl cyfraddau uwch yn cael ei hawlio, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad TTT preswyl prif gyfradd. Mae gan y trethdalwr hyd at dair blynedd i werthu ei brif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad.
Dylid cymryd gofal gydag unrhyw gymariaethau dros amser sy'n cynnwys data ar gyfer gwanwyn 2020 i’r haf 2021. Mae hyn oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir. O ganlyniad i’r clo cenedlaethol ar 23 Mawrth 2020, caewyd y farchnad dai gan mwyaf o'r dyddiad hwn tan 22 Mehefin 2020 pan ailagorodd yn rhannol. Ailagorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf, i gyd-fynd â newid yng nghyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir sy’n weithredol hyd at 30 Mehefin 2021. Mae tystiolaeth y gallai rhai prynwyr fod wedi symud eu trafodiadau ymlaen i fis Mehefin 2021 er mwyn elwa ar y gostyngiad treth dros dro.
Roedd rhai newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn weithredol o 22 Rhagfyr 2020. Effeithiwyd ar trafodiadau amhreswyl a thrafodiadau preswyl cyfraddau uwch.
Newidwyd y prif gyfraddau a bandiau preswyl o 10 Hydref 2022.
Newidwyd y gyfraddau uwch preswyl ar gyfer pob bandiau o 11 Rhagfyr 2024.
Gellir darllen gwybodaeth am yr holl newidiadau hyn i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn:
Newidiadau i drothwy cyfradd sero y Dreth Trafodiadau Tir
Y Dreth Trafodiadau Tir – ymestyn cyfnod y gostyngiad dros dro yn y dreth
Newidiadau i gyfraddau a bandiau Treth Trafodiadau Tir
Newidiadau i brif gyfraddau a bandiau preswyl y Dreth Trafodiadau Tir
- Talgrynnu wedi'i wneud
Caiff y gwerthoedd yn y set ddata hon eu talgrynnu i'r 10 trafodiad agosaf, i’r £0.1 miliwn agosaf o ran treth sy’n ddyledus, ac i’r £1 miliwn agosaf ar gyfer gwerth yr eiddo sy'n cael ei drethu. Dangosir y dreth gyfartalog sy'n ddyledus fesul trafodiad i'r £10 agosaf, tra dangosir y gwerth cyfartalog fesul trafodiad i'r £1000 agosaf.
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Awdurdod Cyllid Cymru
- E-bost cysylltu
- data@acc.llyw.cymru