Ceisiadau misol cronnus am Lwfansau Cynhaliaeth Addysg, yn ôl blwyddyn academaidd a chyfnod gwaith

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cyfnod y gwaith cais
5 o 5 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Mis
10 o 10 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn academaidd
21 o 21 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:25 Medi 2025

Diweddariadau

25ain Medi 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr
Ffynhonnell y data
Data gweinyddol
Cyfnod amser dan sylw
Medi 2004 i Awst 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r tabl hwn yn cyflwyno gwybodaeth am nifer y ceisiadau cymeradwy am Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (EMAs), hyd yma yn y flwyddyn academaidd bresennol.

Mae'r data'n seiliedig ar geisiadau sydd wedi dod i law erbyn diwedd pob mis calendr.

Mae'r cynllun EMA wedi'i gynllunio fel cymhelliant i fyfyrwyr o deuluoedd incwm isel aros mewn addysg lawn amser ar ôl iddynt gyrraedd diwedd yr oedran ysgol gorfodol. Lwfans wythnosol yw'r EMA a delir bob pythefnos i fyfyrwyr mewn sefydliadau yng Nghymru.

O flwyddyn academaidd 2011/12, gallai myfyrwyr a oedd yn newydd i'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg(LCA ) fod yn gymwys i dderbyn dim ond £30 yr wythnos ac ers mis Ebrill 2023 mae bellach yn £40 yr wythnos, yn dibynnu ar incwm y cartref ac amgylchiadau teuluol. Roedd myfyrwyr a dderbyniodd LCA yn 2010/11 a ddychwelodd i addysg ac a oedd yn bodloni'r un meini prawf cymhwysedd ag ar gyfer 2010/11 yn parhau i gael eu LCA ar £10, £20 neu £30 yr wythnos.

Mae cyfnod y gwaith yn dynodi statws y cais pan gafodd data ei echdynnu gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Mae ceisiadau anghyflawn yn cynnwys ceisiadau sydd â gwybodaeth ar goll (e.e. dyddiad geni heb ei gynnwys) neu dystiolaeth goll (e.e. tystysgrif geni heb ei gynnwys). Mae Arall yn cynnwys ceisiadau sydd yn un o'r cyfnodau gwaith canlynol: wedi'i asesu; yn disgwyl gwrthodiad; heb orffen cipio data; asesiad wedi methu; wedi'i ddilysu; wedi'i ardystio (yn ôl diffiniad y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr).

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r data a welir yma yn dod o gronfa ddata swyddogol SLC ar diwedd pob mis calendr ac yn seiliedig ar yr un diffiniadau a ddefnyddir ar gyfer y Bwletin Ystadegol Blynyddol.

Mae ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 5 agosaf. Oherwydd talgrynnu, efallai na fydd symiau'r rhesi a'r colofnau'n ychwanegu at y cyfanswm a roddir. Mae rhifau llai na 5 (ond nid sero) wedi'u hatal.

Ansawdd ystadegol

Mae ffigurau StatsCymru yn cael eu diweddaru'n fisol ac yn gywir adeg y cyhoeddi hwn. Maent yn amodol ar ddiwygiadau yn dilyn gwaith prosesu SLC pellach, er enghraifft, gan fod ceisiadau'n cael eu hailddosbarthu o EMA i Lwybrau i Brentisiaethau neu i'r gwrthwyneb.

Efallai y gwelwch ostyngiad yn nifer y ceisiadau EMA cymeradwy rhwng mis Mawrth a mis Ebrill mewn rhai blynyddoedd. Mae hyn oherwydd yr ymarfer blynyddol a gynhelir gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i samplu cyfran o'r ymgeiswyr EMA sy'n dychwelyd sydd wedi dewis hunanardystio eu hincwm. Bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn asesu'r cais yn erbyn tystiolaeth o incwm yr ymgeisydd yn y flwyddyn flaenorol. Os bydd yr ymgeisydd yn methu â darparu tystiolaeth o incwm yr aelwyd (os gofynnir amdani), rhagdybir nad yw'n gymwys i gael cymorth mwyach.

Cafodd EMAs eu cyflwyno ar gyfer pobl ifanc 16 oed yn 2004/05, a chafodd y cynllun ei ymestyn i gynnwys pobl ifanc 17 oed yn 2005/06 a phobl ifanc 18 oed yn 2006/07 (mae pobl ifanc 19 oed yn gymwys hefyd o dan rai amgylchiadau, felly byddent yn cael eu cynnwys mewn ffigurau o 2007/08 ymlaen).

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 5 agosaf. Oherwydd talgrynnu, efallai na fydd symiau'r rhesi a'r colofnau'n ychwanegu at y cyfanswm a roddir.

Mae rhifau llai na 5 (ond nid sero) wedi'u hatal.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru