Demograffeg Busnes yn ôl Diwydiant, Ardal, a Blwyddyn

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Mesur
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
16 o 16 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
24 o 24 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Diwydiant
16 o 16 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, na'i disodli yn y dyfodol

Diweddariadau

15fed Medi 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data 1
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data 1
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Darparwr data 2
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 2
Demograffeg busnes
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 2008 i Rhagfyr 2023

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn manylu ar geni busnesau, marwolaethau a menterau gweithredol yn ôl ardal a diwydiant.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae genedigaethau, marwolaethau a mentrau gweithgar fesul 10,000 o’r boblogaeth wedi’u cyfrifo gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth ONS, sydd are gael hyd at 2023 ar hyn o bryd.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn defnyddio data o'r Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau (IDBR) i gynhyrchu ei hystadegau ar ddemograffeg busnesau, gan ddefnyddio canllawiau a geir yn y llawlyfr Eurostat/y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar Ddemograffeg Busnes. Y man cychwyn ar gyfer demograffeg yw'r cysyniad o boblogaeth o fusnesau gweithredol mewn blwyddyn gyfeirio. Diffinnir y rhain fel busnesau oedd â throsiant neu gyflogaeth ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cyfeirio. Yna, mae genedigaethau a marwolaethau'n cael eu nodi drwy gymharu poblogaethau gweithredol ar gyfer gwahanol flynyddoedd.

Diffinnir genedigaeth fel busnes a oedd yn bodoli ym mlwyddyn t, ond nad oedd yn bodoli ym mlwyddyn t-1 neu t-2. Nodir genedigaethau drwy gymharu ffeiliau poblogaeth gweithredol blynyddol a nodi'r rhai hynny a oedd yn bodoli yn y ddiweddaraf, ond nid yn y ddwy flaenorol.

Diffinnir marwolaeth fel busnes a oedd ar y ffeil weithredol ym mlwyddyn t ond nad yw’n bodoli bellach ar y ffeil weithredol ar gyfer blwyddyn t+1 neu t+2. Er mwyn cynhyrchu ystadegau manylach, mae ystadegau demograffeg busnes y DU yn cynnwys dangosydd marwolaeth rhagarweiniol, sy’n cynnwys addasiad ar gyfer ailgychwyniadau a amcangyfrifir. Mae ailgychwyniadau’n digwydd pan fydd busnes yn segur am gyfnod o lai na 2 flynedd, yna’n ailddechrau gweithgarwch mewn modd sy’n cydymffurfio â diffiniad o barhad. Os nad yw’r diffiniad o barhad yn cael ei fodloni (e.e. os yw busnes yn ailddechrau gweithgarwch ond mewn gwahanol leoliad a gyda gwahanol weithgarwch), byddai hyn yn cael ei ystyried yn farwolaeth wedyn genedigaeth. Gall ailgychwyniadau ddigwydd hefyd yn sgil oedi yn ffynhonnell y data gweinyddol (TAW/Talu Wrth Ennill) felly gall busnes sy’n parhau i fasnachu ymddangos fel petai wedi marw. Nid yw’r data marwolaethau’n cynnwys colledion i’r boblogaeth yn sgil busnesau’n uno, yn dod i ben, yn gwahanu neu’n ailstrwythuro.

Mae ystadegau ar ddemograffeg busnesau y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn wahanol i ystadegau’r cyn-Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio (BERR) gan eu bod yn cynnwys unedau sy’n PAYE gofrestredig. Felly, bydd ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn cynnwys genedigaethau a marwolaethau busnesau sy’n cyflogi nad ydynt wedi’u cofrestru ar gyfer TAW, gan roi golwg mwy cynhwysfawr ar weithgarwch dechrau busnesau. Mae gan ddata’r Swyddfa Ystadegau Gwladol fwy o fusnesau gweithredol hefyd na chyfres seiliedig ar TAW flaenorol BERR a’r cyhoeddiad UK Business: Activity Size and Location sydd wedi ei ehangu. Mae hyn oherwydd bod y fethodoleg i bennu demograffeg busnesau yn ystyried busnesau a oedd yn weithredol ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn gyfeirio, tra bod cyfres y cyn-adran BERR yn cyfrifo stoc drwy ychwanegu cofrestriadau a thynnu dadgofrestriadau o stoc y flwyddyn flaenorol; mae’r cyhoeddiad UK Business: Activity Size and Location yn seiliedig ar gipolwg gan yr IDBR ar adeg benodol ym mis Mawrth. Hefyd, mae demograffeg busnesau yn cynnwys grwp o fusnesau PAYE anghorfforaethol a oedd wedi’u heithrio o UK Business: Activity Size and Location oherwydd risg fach o ddyblygu.

Mae'r rhanbarthau economaidd, fel y nodir yng Nghynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru, yn cynnwys yr awdurdodau lleol canlynol: Canolbarth a’r Dde-orllewin Cymru: Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Powys a Cheredigion. De-ddwyrain Cymru: Bridgend, Bro Morgannwg, Caerdydd, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Sir Fynwy a Chasnewydd. Gogledd Cymru: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Roedd rhanbarth Canolbarth a De Orllewin Cymru wedi'i rannu'n flaenorol yn y ddwy ranbarth economaidd ganlynol: Canolbarth Cymru: Powys a Cheredigion. De-orllewin Cymru: Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. O fewn y rhaniad blaenorol o ranbarthau economaidd Cymru, roedd rhan o awdurdod lleol Gwynedd (hen ardal Meirionydd) yn gorwedd mewn rhanbarth economaidd Canolbarth Cymru, er nad yw’n cael ei gynrychioli yn y data.

Sylwch, mae lefelau ar gyfer rhanbarthau economaidd Cymru ac ardaloedd NUTS3 a phob cyfradd ganran (gan gynnwys ffigyrau pob 10,000 o'r boblogaeth) wedi'u cyfrifo gan ddefnyddio'r ffigyrau wedi’u talgrynnu, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ansawdd ystadegol

Mae adroddiad o ansawdd ystadegol ar gael yn yr adroddiadau perthnasol.

Gall cyfansymiau ar draws tablau wahaniaethu gan symiau bychain oherwydd y dulliau rheoli datgeliad a ddefnyddir.

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae data yn cael ei dalgrynnu i'r 5 agosaf.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.economi@llyw.cymru