Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr yn ôl Blwyddyn

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

10 o 10 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
56 o 56 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Unedau
1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:30 Mehefin 2026

Diweddariadau

15fed Ionawr 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Dim dynodiad
Darparwr data
Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol
Ffynhonnell y data
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Allyriadau tiriogaethol nwyon tŷ gwydr yn ôl y sector Ystadegau Allyriadau Tiriogaethol (TES) (cyfwerth â chilodunelli o garbon deuocsid). Hyd at fis Gorffennaf 2023, cyhoeddwyd y ciwb hwn gan ddefnyddio sectorau Cyfathrebu Cenedlaethol (NC). Cafodd hyn ei newid oherwydd bod yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net (DESNZ) bellach yn cyhoeddi amcangyfrifon allyriadau'r DU gan ddefnyddio sectorau TES. Mae hyn hefyd wedi cael ei roi ar waith yn amcangyfrifon allyriadau'r Gweinyddiaethau Datganoledig (DA). Dyluniwyd y sectorau TES i'w gwneud hi'n haws i ddefnyddwyr ddeall prif ffynonellau'r allyriadau ac i alinio'n well â chyfrifoldebau polisi o fewn y llywodraeth. Cewch hyd i ragor o wybodaeth drwy'r dolenni gwe. Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio'r sectorau'n wahanol yn Cymru Sero Net - Cyllideb Garbon 2 (2021 i 2025) ac mae'n debygol o wneud hynny ar gyfer cynlluniau cyllideb garbon yn y dyfodol. Mae cyfansymiau allyriadau Cymru yn cynnwys amcangyfrifon allyriadau sy'n gysylltiedig â Hedfan Rhyngwladol a Morgludiant, yn unol â thargedau statudol Cymru.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r holl amcangyfrifon allyriadau yn cynnwys y fasged o 7 o nwyon tŷ gwydr Kyoto cyfwerth â chilodunelli o garbon deuocsid gan ddefnyddio gwerthoedd potensial cynhesu byd-eang AR5.

Ansawdd ystadegol

Mae’r cynhyrchwyr yn cael eu harchwilio ac mae rhestr sylfaenol y Deyrnas Unedig yn destun rhaglen o adolygiadau arbenigol blynyddol trylwyr (CU, UE), yn ogystal ag adolygiadau dwyochrog ac adolygiadau gan gymheiriaid. Mae’r gweithgareddau hyn yn dadansoddi’r dulliau, y tybiaethau a’r ffynonellau data sy’n sail i gyflwyniadau yn y Deyrnas Unedig ac yn asesu tryloywder, cywirdeb, cyflawnder, cysondeb y cyfresi amser a chymharedd (yn erbyn gwledydd eraill sy’n adrodd) rhestr y Deyrnas Unedig

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru