Rhestrau aros y GIG: amcangyfrif o gleifion unigryw, Mawrth 2022 ymlaen

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dyddiad
40 o 40 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Bwrdd Iechyd Lleol
8 o 8 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:20 Tachwedd 2025

Diweddariadau

10fed Tachwedd 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Gwybodaeth reoli
Darparwr data
Ymddiriedolaethau GIG a Byrddau Iechyd Lleol
Ffynhonnell y data
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Cyfnod amser dan sylw
Mawrth 2022 i Awst 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae’r tabl hwn yn darparu amcangyfrif o niferoedd y cleifion unigol ar restrau aros Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth (RTT) yng Nghymru fesul bwrdd iechyd lleol.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae’r amcangyfrifon yn seiliedig ar wybodaeth reoli a ddarperir gan fyrddau iechyd lleol Cymru. Nid yw gwybodaeth reoli yn cael ei hasesu yn erbyn y Cod Ymarfer ar gyfer ystadegau. Er bod egwyddorion y Cod Ymarfer wedi’u cymhwyso, nid yw’r data hyn yn ddarostyngedig i’r un lefel o wiriadau sicrhau ansawdd a gymhwysir i ystadegau swyddogol achrededig.

Ansawdd ystadegol

Mae gwahanol ddulliau yn cael eu defnyddio gan y byrddau iechyd i amcangyfrif nifer y cleifion unigol ar restrau aros RTT, gan adlewyrchu’r gwahanol systemau gweinyddol sylfaenol sydd ar waith. Mewn rhai achosion, mae byrddau iechyd wedi cadarnhau bod eu dulliau yn golygu ei bod yn bosibl cyfrif pob claf, ac nad oes unrhyw ddyblygu, a bod disgwyl i’r ffigurau fod yn gywir iawn felly. Mewn achosion eraill, mae’n hysbys nad yw rhai cleifion yn cael eu cynnwys wrth gyfrif – er enghraifft, am nad ydynt yn cael eu cofnodi ar yr un systemau â chleifion eraill – neu fod posibilrwydd y ceir rhywfaint o ddyblygu. Mae’r enghraifft fwyaf arwyddocaol o hyn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, lle nad yw’n bosibl cynnwys cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig neu therapïau. Mae’r cleifion hyn yn cyfrif am tua 10% o gyfanswm y llwybrau RTT a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Disgwylir i enghreifftiau eraill o orgwmpasu a thangwmpasu gael effaith fach iawn ar y ffigurau.

Rhoddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ddull gwell ar waith o amcangyfrif cleifion unigryw a gafodd ei gymhwyso i’r data o fis Ebrill 2023 ymlaen. Mae hyn yn golygu nad oes modd cymharu’r ffigurau ar gyfer BIPBC cyn mis Ebrill 2023 yn uniongyrchol â’r rhai wedi hynny. Cafodd y dull newydd yr effaith o leihau’r amcangyfrifon ar gyfer BIPBC o tua 4,000 o’u cymharu â’r dull blaenorol. Roedd hyn tua 3% o’r ffigur ar gyfer BIPBC. Effaith fach a gafwyd ar y ffigurau ar lefel Cymru gyfan, a gwelwyd lleihad o lai nag 1% o’i gymharu â’r fethodoleg flaenorol.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru