Tabl mewnbwn-allbwn (diwydiant yn ôl diwydiant)

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Allbwn diwydiannau a mewnbynnau craidd (rhesi)
74 o 74 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Treuliant canolraddol a galw terfynol (colofnau)
78 o 78 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, ond disgwylir iddi gael ei disodli yn y dyfodol

Diweddariadau

23ain Ebrill 2026

Shorten industry names

16eg Ebrill 2026

fformatio

16eg Ebrill 2026

test

14eg Ebrill 2026

Added metadata

14eg Ebrill 2026

Added summary

14eg Ebrill 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Tablau cyflenwad a defnydd a thablau mewnbwn-allbwn
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 2022 i Rhagfyr 2022

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Beth yw tabl mewnbwn allbwn

Mae’r set ddata hon yn cynnwys tabl mewnbwn allbwn diwydiant yn ôl diwydiant sy’n dangos llifoedd nwyddau a gwasanaethau rhwng diwydiannau yng Nghymru, defnyddwyr terfynol, gweddill y DU, a gweddill y byd.

Mae’r tabl yn disgrifio’r cysylltedd rhwng diwydiannau drwy ddangos beth mae pob diwydiant yn ei brynu gan ddiwydiannau eraill er mwyn cynhyrchu ei allbwn, a ble mae’r allbwn hwnnw’n cael ei ddefnyddio yn y pen draw. Mae hefyd yn dangos faint o werth sy’n cael ei ychwanegu gan bob diwydiant drwy ddefnyddio llafur a chyfalaf.

At beth y defnyddir y tabl

Ar gyfer pob diwydiant, mae cyfanswm y nwyddau a’r gwasanaethau a ddefnyddir yn gyfartal â chyfanswm yr hyn a gyflenwir unwaith y caiff mewnforion eu cynnwys. Mae hyn yn golygu bod y tabl yn gwbl gytbwys ac yn fewnol gyson.

O ganlyniad, gellir defnyddio’r tabl ar gyfer ystod eang o ddadansoddiadau economaidd, gan gynnwys deall cadwyni cyflenwi, asesu sut mae newidiadau yn y galw yn effeithio ar wahanol ddiwydiannau, a chyfrifo lluosyddion economaidd.

Sut mae’r tabl wedi’i strwythuro

Mae diwydiannau yn ymddangos ar draws brig y tabl ac i lawr yr ochr chwith.

Mae’r colofnau’n dangos beth sydd ei angen ar bob diwydiant i gynhyrchu ei allbwn, gan gynnwys y nwyddau a’r gwasanaethau y mae’n eu prynu gan ddiwydiannau eraill, yn ogystal â thaliadau i weithwyr.

Mae’r rhesi’n dangos sut caiff allbwn pob diwydiant ei ddefnyddio, naill ai gan ddiwydiannau eraill fel mewnbynnau neu gan ddefnyddwyr terfynol megis aelwydydd a’r llywodraeth, fel ffurfiant cyfalaf, neu ei allforio.

Gyda’i gilydd, mae’r rhesi a’r colofnau’n rhoi darlun cyflawn o’r cysylltiadau rhwng cynhyrchiad a gwariant ar draws economi Cymru.

Mynegir pob ffigur mewn prisiau sylfaenol (sy’n eithrio trethi ond yn cynnwys cymorthdaliadau ar gynhyrchion), ac mewn miliynau o bunnoedd.

Cyfrifo neu gasglu data

Pa ffynonellau data a ddefnyddir

Mae’r tabl mewnbwn allbwn yn drawsnewidiad algebraidd o’r tablau cyflenwad a defnydd. Caiff tablau cyflenwad a defnydd Llywodraeth Cymru eu llunio gan ddefnyddio cyfuniad o arolygon a setiau data gweinyddol er mwyn amcangyfrif faint o gynnyrch sy’n cael ei gynhyrchu, ei fewnforio, ei ddefnyddio, gan gynnwys yr hyn a ddefnyddir ar gyfer ffurfiant cyfalaf, a’i allforio.

Gan fod y ffynonellau data hyn yn gallu cyflwyno gwybodaeth groes, mae angen cydbwyso’r tablau er mwyn sicrhau cysondeb rhwng cyfanswm y cyflenwad a chyfanswm y defnydd. Mae’r broses gydbwyso hon yn nodwedd graidd o fframwaith cyfrifon cenedlaethol ac mae’n golygu defnyddio barn broffesiynol i gysoni’r dystiolaeth sydd ar gael er mwyn sicrhau bod cyflenwad yn hafal i ddefnydd ar draws pob cynnyrch.

Mae rhagor o fanylion am y ffynonellau data a’r dulliau ar gael yn yr adroddiad methodoleg ategol.

Sut mae’r tablau hyn yn cymharu â’r cyhoeddiadau blaenorol

Ni ddylid cymharu’r set ddata hon â chyhoeddiad 2019, gan fod y dulliau, y ffynonellau data a’r ffordd y cyflwynir y data wedi cael eu haddasu’n sylweddol.

Ansawdd ystadegol

Beth sydd angen i chi ei wybod am ansawdd y data

Dynodir y tablau cyflenwad, defnydd a thablau mewnbwn-allbwn yn Ystadegau Swyddogol o dan Ddatblygiad (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau), sy’n adlewyrchu bod y fethodoleg yn parhau i gael ei datblygu a gwaith ymgysylltu â defnyddwyr.

Beth yw’r prif gyfyngiadau o ran ansawdd

  • Mae rhai o gydrannau’r tabl yn dibynnu ar batrymau ar lefel y DU lle nad oes data penodol i Gymru ar gael ar lefel ddigon manwl, gan gynnwys strwythurau cynhyrchu ar gyfer diwydiannau nad ydynt yn perthyn i’r sector gweithgynhyrchu.
  • Ategir rhai o gydrannau’r tabl, megis gwerth ychwanegol gros diwydiannau, gan ffynonellau data cymharol gryf. Mae cydrannau eraill – yn enwedig mewnforion – yn dibynnu ar dybiaethau symlach na fyddant o reidrwydd yn adlewyrchu cadwyni cyflenwi yn llawn.
  • Mae rhai arolygon â chynrychiolaeth neu gwmpas cyfyngedig ar gyfer rhannau o economi Cymru; cymhwysir amrywiol ddulliau dosrannu felly er mwyn sicrhau amcangyfrifon rhesymol a chytbwys.

O ganlyniad, mae’r tablau ar eu cryfaf pan gânt eu defnyddio i ddadansoddi’r economi yn ei chyfanrwydd yn hytrach na thrafodion unigol.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
tablaumewnbwnallbwn@llyw.cymru